Datblygu Canllaw "Dim Byd Annisgwyl": Taith Cydgynhyrchu ac Ymwybyddiaeth Synhwyraidd
- theaweprojectwales
- May 13
- 3 min read

Download Here
Mewn prosiect cydweithio arloesol, mae Autistic UK a Thîm Cydraddoldeb BIPBC, ochr yn ochr ag Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd, wedi datblygu canllaw "Dim Byd Annisgwyl". Mae'r fenter hon yn dyst i gydgynhyrchu, lle gwnaeth unigolion awtistig a staff y bwrdd iechyd weithio gyda'i gilydd i greu adnodd sy'n mynd i'r afael ag anghenion synhwyraidd unigryw pobl awtistig mewn lleoliadau achosion brys.
Y Broses Gydgynhyrchu
Dechreuodd y daith gyda gweledigaeth ar y cyd: sicrhau bod yr Adran Achosion Brys (ED) yn lle llai brawychus i unigolion awtistig. Gan gydnabod bod archwiliadau mynediad traddodiadol yn aml yn esgeuluso anghenion synhwyraidd, cychwynnodd Autistic UK a'r Bwrdd Iechyd ar daith i lenwi'r bwlch yma.
Archwiliadau Synhwyraidd Gwnaeth unigolion awtistig, gyda'u profiadau byw, gyflawni rôl hollbwysig o ran cynnal archwiliadau synhwyraidd o'r Adran Achosion Brys. Roedd yr archwiliadau hyn yn cynnwys edrych ar yr amgylchedd yn fanwl, gan nodi sbardunau synhwyraidd posibl fel sŵn, goleuadau, a threfniadau gofodol. Roedd y cipolygon a gasglwyd yn hynod werthfawr, gan dynnu sylw at feysydd lle'r oedd angen addasiadau er mwyn bod yn fwy addas ar gyfer sensitifrwydd synhwyraidd. Ar gyfer yr archwiliadau, taflwyd llawer o syniadau i'r pair, lle daeth profiadau personol ac arbenigedd proffesiynol at ei gilydd. Gwnaeth cyfranogwyr awtistig rannu eu profiadau o lygad y ffynnon am fod mewn amgylcheddau gofal iechyd, a rhoddodd staff drosolwg ar gyfyngiadau a'r hyn sy'n bosibl ar lefel weithredol.
Drafftio'r Canllaw Gyda chyfoeth o wybodaeth o'r archwiliadau, nod y tîm oedd drafftio canllaw "Dim Byd Annisgwyl". Cafodd y canllaw ei lunio'n fanwl er mwyn sicrhau ei fod yn gynhwysfawr ond yn hygyrch hefyd. Mae'n ymdrin â phob agwedd ar ymweld â'r Adran Achosion Brys, o weithdrefnau cyrraedd i ardaloedd penodol fel yr Uned Achosion Mawr a'r Ystafell Bediatrig, y cyfan trwy lens ymwybyddiaeth synhwyraidd.
Pwysigrwydd Ystyriaethau Synhwyraidd
Un o'r prif bethau a ddatgelwyd o'r prosiect hwn oedd sylweddoli bod anghenion synhwyraidd yn aml yn cael eu hesgeuluso mewn archwiliadau mynediad traddodiadol. Ar gyfer unigolion awtistig, gall gorlethu synhwyraidd fod yn rhwystr sylweddol i gyrchu gofal iechyd. Gall hymian cyson gan unedau aerdymheru, offer meddygol sy'n bipian, a'r amgylchedd prysur oll gyfrannu at ofid a thrallod cynyddol.
Trwy ymgorffori'r archwiliadau synhwyraidd i'r broses ddatblygu, mae'r canllaw "Dim Byd Annisgwyl" yn mynd i'r afael â'r heriau hyn yn uniongyrchol. Mae'n darparu gwybodaeth ymarferol ar beth i'w ddisgwyl, gan helpu i leihau gofid a sicrhau bod y profiad yn yr Adran Achosion Brys yn haws delio ag ef.
Annog Mabwysiadu ar Lefel Ehangach
Mae llwyddiant y canllaw "Dim Byd Annisgwyl" yn enghraifft bwerus o'r hyn y gellir ei gyflawni trwy gydgynhyrchu. Mae'n tanlinellu pwysigrwydd cynnwys unigolion awtistig yn y broses o ddylunio a gwerthuso amgylcheddau gofal iechyd. Mae eu profiadau byw yn cynnig cipolygon gwerthfawr sy'n gallu arwain at greu mannau mwy cynhwysol a chefnogol.
Mae Autistic UK bellach yn galw ar sefydliadau eraill i ddilyn yr un esiampl. Trwy weithio mewn partneriaeth ag Autistic UK i gynnal archwiliadau synhwyraidd a datblygu adnoddau wedi'u teilwra, gall darparwyr gofal iechyd sicrhau bod eu gwasanaethau'n wirioneddol hygyrch i bawb.
Cymryd Rhan
Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth, cysylltwch ag Autistic UK heddiw. Gyda'n gilydd, gallwn greu amgylcheddau sydd nid yn unig yn hygyrch ar lefel ffisegol ond sy'n addas ar gyfer y synhwyrau, gan sicrhau bod modd i bawb dderbyn y gofal sydd ei angen arnynt heb straen neu anghysur diangen.